Music Theatre Wales - New Directions: The House of Jollof Opera
AUDIO DESCRIBED VERSION: https://youtu.be/yY2AX_7pJ_I
Writer, Composer & Performer | Awdur, Cyfansoddwr a Pherfformiwr
Tumi Williams
Director & Dramaturg | Cyfarwyddwr a Dramatwrg
Sita Thomas
Co-writer & Performer | Cyd-awdur a Pherfformiwr
Asha Jane
Talking Drums Sample | Sampl Drymiau Siarad
Ayo Lademi
Sound Designer & Engineer | Cynllunydd Sain a Pheiriannydd
Sanders at/yn Kings Road Studio
Film & Edit | Ffilmio a Golygu
Marcus Georges & Nick Wotton for Redbrck / Marcus Georges a Nick Wotton ar ran Redbrck
Special thanks to | Diolch arbennig i
Neighbourhood Kitchen & Bedrooms
Adeola is a budding chef. He brings style and his specialty, vegan jollof. Asha is a tired, hard-working boss of a neighbourhood café. Will her job criteria barriers deter Adeola, or will he bring the flavour party she needs?
Welcome to The House of Jollof Opera, written by Tumi Williams as an exploration and expansion of the operatic form, and directed by Sita Thomas, a multidisciplinary director. The creative duo enjoyed developing their collaborative relationship, bringing their own cultural heritages to the piece, and engaging in contemporary opera in Cardiff.
New Directions is a commissioning programme from Music Theatre Wales, a new opera and music theatre company based in Cardiff. Our ambition at MTW is to be a driving force for change, and with New Directions we are bringing new artists to opera, provoking change in the way opera is made and perceived by addressing who is commissioned to create it. Initially working with Black, Asian and ethnically diverse artists, who historically have been underrepresented in the industry, New Directions will give opera a new voice and new ownership, whilst celebrating it as a multidisciplinary and contemporary art form. For more information, visit: musictheatre.wales
-----------------------
Mae Adeola yn egin gogydd. Daw â steil a’i arbenigedd yw jollof fegan. Mae Asha yn rheolwraig flinedig a gweithgar mewn caffi lleol. A fydd rhwystrau meini prawf ei swydd yn atal Adeola, ynteu ai ef yw’r cynhwysyn coll?
Croeso i The House of Jollof Opera, sydd wedi’i ysgrifennu gan Tumi Williams fel ffordd o archwilio ac ehangu’r ffurf operatig, a dan gyfarwyddyd Sita Thomas, cyfarwyddwr amlddisgyblaethol. Mwynhaodd y ddeuawd greadigol y profiad o ddatblygu eu perthynas gydweithredol, gan gyfrannu eu treftadaeth ddiwylliannol eu hunain at y darn, ac ymgysylltu ag opera gyfoes yng Nghaerdydd.
Mae Cyfeiriadau Newydd/New Directions yn rhaglen gomisiynu a gyflwynir gan Music Theatre Wales, cwmni opera a theatr gerddoriaeth newydd a leolir yng Nghaerdydd. Ein huchelgais yn MTW yw bod yn rym nerthol dros newid, a gyda Cyfeiriadau Newydd rydym yn dod ag artistiaid newydd i fyd yr opera, gan hybu newid yn y modd mae opera yn cael ei gwneud a’i dirnad trwy ymgysylltu â’r rhai a gomisiynir i’w chreu. Gan ddechrau trwy weithio gydag artistiaid Du, Asiaidd, a rhai o gefndiroedd ethnig amrywiol, sydd hyd yma wedi cael eu tangynrychioli yn y diwydiant, bydd Cyfeiriadau Newydd yn rhoi llais newydd a pherchnogaeth newydd i opera, tra ar yr un pryd yn ei dathlu fel ffurf o gelfyddyd sy’n amlddisgyblaethol ac yn gyfoes. Am ragor o wybodaeth, ewch i: musictheatre.wales